Margaret JaneEDWARDS(gynt o Y Maes, St Meugan, Rhuthun) Dymuna Meilir, Eurgain a'r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli, mam, mam yng nghyfraith, nain a hen-nain arbennig iawn. Diolch arbennig i staff Cartref Yr Hen Ddeondy, Llanelwy am eu gofal tyner a charedig o Margaret dros y pedair blynnedd diwethaf. Diolch yn fawr i'r Parchedig Morris P. Morris am ei wasanaeth trylwyr ac urddasol ar ddydd yr angladd; i Hedd ap Emlyn yr organydd; Swyddogion Capel Tabernacl; ac i Anne a Griff Richards am y lluniaeth. Gwerthfawrogir yn fawr y cyfraniadau hael er cof am Margaret tuag at Y Gymdeithas Alzeimer's, a Chanolfan Gofal Dydd Capel Waengoleugoed. Diolch arbennig hefyd i Deiniol ac Esme Jones o gwmni R.W.Roberts a'i Fab am eu trefniadau trylwyr a phroffesiynol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret